Tri chyn-heddwas yn y llys ar gyhuddiad o ddwyn dros £30,000
- Cyhoeddwyd

Mae tri dyn wedi bod yn Llys y Goron Caerdydd wedi eu cyhuddo o ddwyn dros £30,000 tra oedden nhw'n heddweision gyda Heddlu De Cymru.
Roedd Christopher Evans, 38 oed o Langennech ger Llanelli, a Michael Stokes, 35 oed o Lyn Nedd, yn arfer gweithio fel ditectif gwnstabliaid a Stephen Phillips, 47 oed o Abertawe, yn dditectif sarjant.
Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiad o ddwyn yr arian o ddau flwch diogel yn 2011.
Dadleuodd yr erlyniad fod y dynion, oedd yn gweithio i un o dimau troseddau arbennig yr heddlu, wedi bod yn rhan o "lygredd" ymysg yr heddlu.
Clywodd y llys fod cydweithiwr Mr Stokes yn dyst i ffrae rhyngddo a Jodeyn Luben oedd wedi ei gyhuddo o ddwyn ei arian a difrodi ei flwch diogel.
Cyfadde
Roedd y cydweithiwr a Mr Stokes yn teithio i Lanelli pan gyfaddefodd Mr Stokes ei fod e a dau dditectif arall ddwyn yr arian.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Mr Stokes wedi dweud wrth ei gydweithiwr ei fod mewn trafferth ariannol.
Clywodd y rheithgor bod £12,000 wedi'i ddwyn o dŷ yn Abertawe oedd yn cael ei archwilio gan heddweision ar 1 Ebrill 2011.
Roedd honiadau bod dros £1,000 wedi'i ddwyn gan Mr Evans a Mr Stokes o ail flwch diogel wedi iddo gael ei agor gan saer cloeau.
Dywedodd yr erlyniad bod gweddill yr arian wedi'i ddwyn gan Mr Stokes a Mr Phillips ym mis Gorffennaf pan oedd arian "yn cael ei gyfri yn ffurfiol".
Mae'r achos yn parhau.