Mwy o annibyniaeth i Lafur Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Arweinydd Llafur Jeremy Corbyn ac arweinydd Llafur Cymru, y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Disgrifiad o’r llun,
Fydd Jeremy Corbyn yn trosglwyddo cyfrifoldebau ychwanegol i Lafur Cymru?

Gallai Plaid Lafur Cymru gael mwy o annibyniaeth o'r blaid Brydeinig yn sgil cytundeb sy'n addo grym ychwanegol i Blaid Lafur yr Alban.

Mae arweinydd y blaid yng Nghymru, y Prif Weinidog Carwyn Jones, wedi croesawu'r bwriad i drosglwyddo rhai cyfrifoldebau am bolisi, aelodaeth, a'r broses o ddethol ymgeiswyr.

Arweinydd Llafur Jeremy Corbyn a Kezia Dugdale, arweinydd y blaid yn yr Alban, arwyddodd y cytundeb.

Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw'n fawr. Rwyf wedi cael sgyrsiau da gyda Kezia a Jeremy am yr angen i ail-gydbwyso ein trefniadau cyfansoddiadol fel eu bod yn adlewyrchu'r drefn ddatganoledig, ac rwy'n hyderus y gallwn wneud newidiadau cadarnhaol i strwythur y blaid.

"Yn Llafur Cymru rydym wedi datblygu ein hunaniaeth a'n platfform polisïau ein hunain dros nifer o flynyddoedd, ac nawr rydym yn trafod y camau nesaf fydd yn cadarnhau'r datblygiadau hyn.

"O dan arweinyddiaeth Kezia mae Llafur yr Alban yn cryfhau ac mae sefydlu eu brand unigryw eu hunain yn rhan o'r broses honno."

Dywedodd Ms Dugdale y gallai'r cytundeb - fydd yn cael ei gadarnhau yng nghynhadledd y blaid y flwyddyn nesaf - arwain at annibyniaeth debyg i Lafur Cymru.

Derbyniodd y byddai'n bosib i Lafur yr Alban a'r blaid ganolog gefnogi polisïau gwahanol ar faterion sydd heb eu datganoli, fel adnewyddu arfau niwclear Trident, ond gwadodd y byddai hynny'n creu dryswch i'r etholwyr.