Carcharu dyn o Wrecsam oherwydd cynllwyn arfau
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 29 oed o Wrecsam wedi cael chwe blynedd o garchar am ei ran mewn cynllwyn terfysgol.
Clywodd llys yr Old Bailey fod Abdurraouf Eshati yn rhan o gynllwyn i brynu arfau gwerth £18.6m a'u danfon i Libya.
Cafodd Eshati, yn wreiddiol o Libya, bedair blynedd a hanner o garchar am feddu ar ddogfen i ddibenion terfysgol a 18 mis am drosedd fewnfudo.
Roedd wedi pledio'n euog i'r ddau gyhuddiad.
Dywedodd y Barnwr John Bevan QC: "Mae ei ran yn y cynllwyn yn dangos yn amlwg fod pobl yn ymddiried ynddo i gadw cyfrinachau am fasnachu arfau ar raddfa eang."
1,100 tunnell o arfau
Clywodd y llys fod dogfennau electronig yn amlinellu cynllun i gludo 1,100 tunnell o ffrwydron i Libya drwy'r Eidal er mwyn cefnogi'r Zintan, grŵp o ddwyrain y wlad.
Ar ffôn symudol Eshati daeth yr heddlu o hyd i anfoneb cyflenwr arfau oedd yn ymwneud â gwerthu a chludo ffrwydron i Tobruk yn Libya a dogfen logi awyren cargo am £163,000 i'w defnyddio yn Libya.
Yn ystod eu hymchwiliad archwiliodd yr heddlu ystafell Eshati yng Nghanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Wrecsam ble oedd yn cuddio cyfarpar ffugio dogfennau.
Roedd yn byw yn y ganolfan ddiwylliannol ac yn arwain gweddïau ym mosg y dre pan nad oedd neb arall ar gael.
Cafodd Eshati ei ddal ym mhorthladd Dover yn ceisio gadael Prydain yng nghefn lori ar 30 Tachwedd 2014.
Ar ôl cael ei arestio dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi cyrraedd y wlad yn 2009 ar fisa ac wedi ceisio am loches.
Dywedodd fod ei dad wedi'i garcharu am fod yn aelod amlwg o lywodraeth cyn-arweinydd Libya, Muammar Gaddafi, a bod ei frodyr wedi'u llofruddio. Ond roedd yn dweud celwydd.
Twyll
Derbyniodd ei fod wedi ceisio hawl i aros yn y DU drwy dwyll, drwy honni y gallai gael ei erlid petae'n dychwelyd i Libya.
Wedi'r gwrandawiad condemniodd Dr Ikram Shah o'r ganolfan weithredoedd Eshati, gan ddweud fod aelodau'r gymuned yn teimlo ei fod wedi eu bradychu.
Dywedodd Ditectif Brif Uwcharolygydd Terri Nicholson o adran wrth-derfysgaeth Heddlu Llundain: "Does dim amheuaeth fod masnachu arfau fel hyn yn peryglu bywyd nifer o bobol Libya".