Marwolaeth ym Mhenfro: Gyrrwr bws yn y llys
- Cyhoeddwyd

Bu farw Margaret Hank wedi iddi gael ei tharo gan fws ar Bont Llyn y Felin ym mis Mawrth
Mae gyrrwr bws o Ddoc Penfro wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru yn ddiofal neu'n anystyriol.
Fe wnaeth Stuart Alexander Heeps, 55 oed, ymddangos gerbron Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth.
Mae wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth Margaret Hank, 76 oed, ar Bont Llyn y Felin ym Mhenfro ar 7 Mawrth.
Cafodd Mr Heeps ei ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fis nesaf.