Undeb Rygbi Cymru'n gwrthod cais Faletau i symud clwb
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Mae Taulupe Faletau wedi ennill 53 o gapiau rhyngwladol
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwrthod cais gan y Dreigiau i ganiatáu Taulupe Faletau i symud clwb.
Roedd y rhanbarth wedi gwneud y cais i ryddhau'r rheng-ôl, gyda Chaerfaddon yn ffefrynnau i'w arwyddo.
O dan y cytundeb nawdd i rygbi yng Nghymru, mae'n rhaid i'r prif hyfforddwr, Warren Gatland, roi caniatâd i chwaraewyr cenedlaethol i symud allan o Gymru.
Fe wnaeth y Dreigiau gadarnhau mewn datganiad bod caniatâd wedi'i wrthod.