Cyffur canser y pancreas: 'Dim cyfiawnhad i'r gost'

  • Cyhoeddwyd
PillsFfynhonnell y llun, Wales News Service

Ni ddylai cyffur, sydd wedi ei ddefnyddio yng Nghymru i drin canser y pancreas, gael ei ariannu gan y GIG yn ôl un o brif sefydliadau iechyd y DU.

Fe gafodd y cyffur Abraxane ei gymeradwyo gan y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer cleifion y llynedd ac mae wedi bod ar gael ar y GIG yng Nghymru.

Yn y canllawiau terfynol, gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf, dywedodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) nad oedd effaith y cyffur yn "cyfiawnhau'r gost".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y cyffur yn parhau i fod ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae effaith hirdymor penderfyniad NICE eto i'w gadarnhau ar ôl y cyfarwyddyd ddydd Mercher.

Dywedodd Anna Jewell, cyfarwyddwr gweithrediadau elusen Canser y Pancreas UK, ei fod yn "hanfodol" fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cleifion cymwys sydd â chanser y pancreas yn parhau i gael mynediad at y "cyffur sy'n ymestyn hyd bywyd".

"Rydym yn deall bod defnydd rheolaidd o'r driniaeth yn cael ei adolygu wedi penderfyniad siomedig NICE yn Lloegr, felly rydym yn annog yr AWMSG i beidio â newid eu meddyliau ar y mater," meddai.

"Fel arall, fe fydd pobl sydd â chlefyd datblygedig yn colli'r siawns o wario dwywaith cyhyd â'u hanwyliaid gan na fydd y driniaeth ar gael."

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Gwenidog Iechyd, Mark Drakeford yn ystyried penderfyniad NICE.

Fe edrychodd NICE ar ba mor effeithiol yr oedd y cyffur, a elwir hefyd yn 'NAB-paclitaxel', yn gweithio ochr yn ochr â chyffuriau cemotherapi ar gyfer cleifion â chanser y pancreas sydd wedi lledaenu, ac sydd heb dderbyn unrhyw driniaethau eraill.

Dywedodd Syr Andrew Dillon, prif weithredwr NICE: "Er ei bod yn fwy effeithiol nag un o'r opsiynau triniaethau eraill sydd ar gael ar hyn o bryd, mae NAB-paclitaxel wedi'i gysylltu gyda mwy o sgîl-effeithiau.

"Pan fyddwn yn ystyried sut y bydd y sgîl-effeithiau yma yn effeithio ar bob unigolyn a'r ffaith ei fod hefyd yn gyffur drud, ni ellir ystyried NAB-paclitaxel i fod yn ddefnydd effeithiol o adnoddau'r GIG."

Dywedodd y corff cyhoeddus, sy'n cyhoeddi canllawiau ar feddyginiaethau newydd a phresennol, fod y sgîl-effeithiau yn cynnwys gostyngiad yn y nifer y celloedd gwaed.

Gall hyn achosi mwy o risg o haint, problemau gwaedu, blinder a diffyg anadl, ymhlith symptomau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gyngor gan AWMSG ar benderfyniad NICE.

Dywedodd llefarydd: "Tan y bydd y gweinidog iechyd wedi cael cyfle i ystyried cyngor gan y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, fe fydd Abraxane yn parhau i fod ar gael yng Nghymru."