Gwrthdrawiad Sir Fynwy: Dyn wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae cerddwr 72 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Fynwy.

Cafodd y dyn ei daro ar ffordd gyswllt yr A466 yn Newhouse, Cas-gwent, am tua 17:00 ddydd Mawrth.

Fe gafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd dau, traffordd yr M48, (Cyfnewidfa Newhouse) a ffordd yr A48 (cylchfan Highbeech).

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod cerbyd ymateb cyflym ac ambiwlans awyr wedi cael eu hanfon i'r digwyddiad, ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.