Gwrthdrawiad: Plentyn mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae'r plentyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi'r digwyddiad
Mae plentyn 13 oed wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd ar stad ddiwydiannol ger Pontypridd.
Roedd y plentyn ar feic pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad gyda Mitsubishi L200 du.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar Stad Ddiwydiannol Trefforest am 14:25 ddydd Mawrth.
Mae'r plentyn yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhywun welodd y digwyddiad.