Dinbych: Cyhuddo dyn o ladrata wedi cyfres o achosion
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gyhuddo o ladrata yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau yn ardal Dinbych.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod Mark Godsall wedi ei gyhuddo o 11 achos o ladrata.
Ymddangosodd Godsall, sy'n 43 oed ac o Ddinbych, gerbron ynadon ym Mhrestatyn ddydd Mercher.
Fe ddywedodd Tracey Willingham ar ran yr erlyniad fod y digwyddiadau "wedi cael effaith enfawr ar y gymuned."
Yn ystod y gwrandawiad fe siaradodd Godsall unwaith i gadarnhau ei enw, ei oed, a'i gyfeiriad.
Er bod cais wedi ei wneud gan ei gyfreithiwr i'w ryddhau ar fechniaeth, cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar 4 Tachwedd.