Protestwyr yn galw am 'achub' y diwydiant dur
- Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr dur o dde Cymru wedi bod yn lobïo yn San Steffan, yn galw ar lywodraeth y DU i weithredu i achub y diwydiant.
Roedd gweithwyr o safleoedd cwmni Tata ym Mhort Talbot a Llanwern yn rhan o'r protestio cyn i ASau drafod y mater ddydd Mercher.
Mae protestwyr yn dweud y gall miloedd mwy o bobl golli eu swyddi o ganlyniad i gostau ynni uchel a'r ffaith bod dur rhad yn cael ei fewnforio i'r DU.
Mae'r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, wedi galw am gyfarfod brys o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i drafod y problemau sy'n wynebu'r diwydiant.
Daeth dwsinau o weithwyr, gyda nifer yn gwisgo crysau 'Save Our Steel', i San Steffan i brotestio.
Un oedd Jason Wyatt, trydanwr i Tata ym Mhort Talbot, wnaeth alw ar weinidogion i leihau trethi busnes a chostau ynni i'w gyflogwr.
"Rydyn ni'n poeni am yr hyn fydd y busnes yn ei wneud yn y tymor byr, er enghraifft diswyddiadau," meddai.
"Y gwaith dur yw'r cyflogwr mwyaf o bell ffordd ym Mhort Talbot, ac fe fyddai colli swyddi yn cael effaith enfawr ar yr ardal.
Yn ystod y ddadl dywedodd AS Llafur Caerffili Wayne David bod cwmnïau dur mewn gwledydd eraill yn derbyn mwy o nawdd gan y wladwriaeth na'r rhai ym Mhrydain, a galwodd Geraint Davies - AS Llafur Gorllewin Abertawe - ar yr Undeb Ewropeaidd i sefydlu system o drethi carbon ar ddur o dramor.
Ond roedd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn cyhuddo Llafur o ddefnyddio'r ddal am ddur fel "pêl-droed wleidyddol", gan ychwanegu bod y diwydiant dur wedi cael ei newid yn llwyr gan ddur o China.
Yn gynharach, wrth ateb cwestiwn brys am y diwydiant dur dywedodd y prif weinidog David Cameron y byddai Prydain yn ad-dalu costau i wneuthurwyr dur - a diwydiannau eraill sy'n defnyddio llawer o ynni - sydd o ganlyniad i 'drethi gwyrdd' os fydd yr Undeb Ewropeaidd yn cymeradwyo hynny.