Troseddau arfau: Arestio pedwar yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae pedwar person wedi cael eu harestio yn ardal Wrecsam mewn cysylltiad â throseddau arfau ac ymosodiadau.
Mewn cyrchoedd fore Mercher, arestiodd Heddlu Gogledd Cymru dri dyn rhwng 21 a 44 oed a dynes yn ei 30au.
Maent yn cael eu holi mewn swyddfa heddlu leol.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn dal i chwilio nifer o adeiladau yn yr ardal, ac maen nhw'n apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.