Achub pump o gwch pysgota ger Aberdaugleddau

  • Cyhoeddwyd
Cwch

Cafodd pum pysgotwr eu hachub o gwch oedd yn suddo ger arfordir Sir Benfro yn gynnar dydd Mercher.

Aeth bad achub a hofrennydd i chwilio am y cwch pysgota ger harbwr Aberdaugleddau tua 02:10 y bore. Buodd y cwch mewn gwrthdrawiad â gwrthrych ar y môr.

Daeth yr awdurdodau o hyd i'r dynion mewn rafft achub bywyd. Cafodd neb ei anafu.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau y bydden nhw'n ceisio achub y cwch 15 metr, sydd ar y creigiau ym Mae Angl.

Dydi lleoliad y cwch ddim yn effeithio ar longau sy'n dod mewn ac allan o'r harbwr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol