Rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym

  • Cyhoeddwyd
TywyddFfynhonnell y llun, PA

Mae rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym mewn ardaloedd arfordirol a ger aberoedd rhai afonydd yng Nghymru.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod disgwyl llifogydd yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin, Crofty yn Sir Abertawe, aber yr afon Gwy yn Nhyndyrn a Chas-gwent yn Sir Fynwy.

Cafodd rhybuddion eu cyhoeddi ar gyfer Bae Abertawe, Gwyr, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a gogledd Cymru.

Mae disgwyl y bydd y llanw ar ei uchaf nos Fercher.

Mae rhybuddion mewn grym ar gyfer gweddill aber yr afon Gwy yn Sir Fynwy, ac ar hyd yr arfordir o Aberddawan, Bro Morgannwg, hyd at Bont Hafren.