Cwmni yn ehangu perchnogaeth papurau

  • Cyhoeddwyd
papurFfynhonnell y llun, Arall

Mae'r cwmni sydd yn gyfrifol am gyhoeddi'r Western Mail wedi prynu'r cwmni sy'n cyhoeddi'r South Wales Evening Post.

Fe wnaeth Trinity Mirror brynu cwmni Local World am £187.4m, gan greu'r grŵp cyhoeddi rhanbarthol mwyaf yn y DU gyda 180 o deitlau.

Mae'r cytundeb yn golygu mai Trinity Mirror sydd nawr yn berchen ar bapurau'r Llanelli Star a'r Carmarthen Journal.

Mae Trinity Mirror yn cyhoeddi papurau'r Wales on Sunday, y South Wales Echo a'r Daily Post yn barod.

Prif gyhoeddiad y cwmni ydi'r Daily Mirror ac roedd Trinity Mirror yn berchen ar 20% o Local World yn barod.

Dywedodd prif weithredwr Trinity Mirror Simon Fox y byddai prynu Local World yn rhoi "rhwydwaith digidol o ddefnyddwyr unigryw o 120m yn fisol" i Trinity Mirror.