RNLI: Dynes yn hyfforddi i fod yn llywiwr

  • Cyhoeddwyd
Caryl Parry ThomasFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,
Caryl Parry Thomas wrth y llyw

Mae dynes 25 oed sy'n gwirfoddoli gyda'r RNLI yn hyfforddi i fod y llywiwr cyntaf benywaidd erioed gyda chriw bad achub yr RNLI ym Mhorthdinllaen.

Mae Caryl Parry Thomas wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r criw ers wyth mlynedd, a hi fydd y ddynes gyntaf i lywio bad achub yr orsaf wedi iddi gwblhau ei chyfnod o hyfforddiant ers i'r criw ym Mhorthdinllaen gael ei sefydlu 151 o flynyddoedd yn ôl, yn 1864.

Mae hi'n gweithio fel heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru ac fe ddechreuodd ei chyfnod o hyfforddiant fel llywiwr dros 18 mis yn ôl. Mae hi'n gobeithio cwblhau ei hyfforddiant flwyddyn nesaf pan y gallai gael ei phenodi fel ail lywiwr wrth gefn.

Fel rhan o'i hyfforddiant fe dreuliodd Caryl ddiwrnod ym Mae Caernarfon wythnos ddiwethaf ar fwrdd y bad achub John D Spicer, dan ofal prif lywiwr Porthdinllaen, Mike Davies.

Yn ystod y diwrnod fe gafwyd ymarferiad ar y cyd gyda hofrennydd achub, ac fe gafodd Caryl ei chodi o'r cwch i'r hofrennydd ac yna yn ôl i lawr.

Dywedodd Caryl: "Dwi wedi bod yn hyfforddi o dan lygad wyliadwrus Mike ers 18 mis. Mae dod yn llywiwr llawn gyda'r RNLI yn sialens arall rwyf yn benderfynol o'i chwblhau."

Ychwanegodd: "Rwy'n falch i gael derbyn diwrnod llawn o hyfforddiant yn y môr ger ein gorsaf ym Mhorthdinllaen.

"Yr uchafbwynt i mi oedd yr ymarferiad gyda'r hofrennydd oedd wedi ei leoli gerllaw."

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,
Caryl Parry Thomas (ar y dde) gyda rhai o griw yr RNLI