Creu consortiwm i ddiogelu archifau?
- Cyhoeddwyd

Daeth cyfarfod rhwng swyddogion o Gyngor Sir Gaerfyrddin a haneswyr lleol i ben ddydd Mercher gyda chynnig posib i greu consortiwm i ddiogelu archifau newydd yn y gorllewin.
Roedd y cyfarfod mewn ymateb i bryderon am "gyflwr gwael" yr adeilad ble mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cadw dogfennau a henebion ynddo. Mae'r dogfennau'n cynnwys cofnodion am Ferched Beca, achau hen deuluoedd a llythyrau gan y Frenhines Fictoria.
Ers dros flwyddyn mae Parc Myrddin, Archifau Sir Gaerfyrddin, wedi bod ar gau i'r cyhoedd, a hynny oherwydd llwydni sy'n effeithio'r adeilad.
Dywedodd yr hanesydd David Davies, llefarydd ar ran y pwyllgor treftadaeth leol newydd fod dau gynllun posib yn cael eu hystyried - sef gwaith ar y cyd rhwng Archifau Gorllewin Morgannwg, Prifysgol Abertawe a Chyngor Sir Gaerfyrddin - neu gytundeb posib i gydweithio rhwng y cyngor a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Mae'n debyg mae'r dewis poblogaidd fyddai lleoli'r archif yn sir Gaerfyrddin.
Glanhau a storio
Dywedodd aelodau'r pwyllgor newydd eu bod yn ffyddiog y byddai'r dogfennau'n cael eu glanhau'n drwyadl a'u storio'n ddiogel erbyn y Nadolig.
Ond ychwanegodd Mr Davies eu bod yn bryderus am ddiffyg diddordeb cynghorwyr etholedig yn eu harchifau swyddogol - sydd wedi ei ddisgrifio gan rai haneswyr fel y casgliad pwysicaf o ddogfennau hanesyddol yng Nghymru.
Dywedodd y cynghorydd Meryl Gravell: "Mae pryderon hir dymor wedi bod am anaddasrwydd Parc Myrddin fel lleoliad i gadw archifau'r sir.
"Er yr anhawsterau hanesyddol mewn gwario ar fuddsoddi yn y gwasanaeth, mae'r awdurdod nawr wedi darganfod cyllid sylweddol i symud, glanhau ac ail-gartrefu y casgliad archifau o fewn cyfnod o amser sydd wedi ei gytuno arno.
"Mae rhan o gasgliad Archifau Sir Gaerfyrddin ar gael yn barod i'w weld yn Archifau Gorllewin Morgannwg. Mae cyfres un a dau o'r casgliad ar gael i'w weld gan y cyhoedd gyda disgwyl y bydd rhan tri ar gael yn fuan.
"Yn ychwanegol fe fyddwn yn cynnig opsiynnau i fwrdd gweithredol y cyngor am ddyfodol yr archif yn yr wythnosau i ddod.
"Mae'r Archif Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda ni i ddarganfod ateb i'r materion heriol hyn."