Llai eto yn gwrando ar orsafoedd Radio Cymru a Radio Wales
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl sy'n gwrando ar ddwy orsaf radio cenedlaethol BBC Cymru wedi gostwng, yn ôl ffigurau diweddaraf.
Dangosodd ystadegau bod cyrhaeddiad wythnosol BBC Radio Cymru i lawr 12,000 i 104,000 dros y chwarter diwethaf - ei lefel isaf erioed.
Fe wnaeth nifer gwrandawyr BBC Radio Wales ostwng o 24,000 i 384,000, eu ffigwr isaf ers chwe mlynedd.
Daw'r ffigurau gan gwmni Rajar, oedd yn mesur cyrhaeddiad rhwng Gorffennaf a Medi.
Cyrhaeddiad wythnosol isaf BBC Radio Cymru cyn yr ystadegau diweddaraf oedd 105,000 union flwyddyn yn ôl.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Fel sy'n arferol, byddwn yn dadansoddi'r ffigurau hyn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynnig y cynnwys gorau posibl i'n cynulleidfaoedd."
Bu gostyngiad yn nifer gwrandawyr gorsafoedd Radio Cymru a Radio Wales rhwng Ebrill a Mehefin hefyd.
Fe gafodd newidiadau eu gwneud i amserlen Radio Cymru ym mis Mawrth 2014.
Radio masnachol
Bu cynnydd yn nifer sy'n gwrando'n wythnosol ar rai o orsafoedd radio masnachol Cymru.
Roedd 552,000 yn gwrando ar Heart South Wales, 94,000 yn fwy.
Fe gafodd Capital South Wales hwb hefyd gyda 16,000 yn ychwanegol yn gwrando gan fynd â'r nifer i 215,000.
Colli gwrandawyr oedd hanes gorsafoedd eraill fel Juice FM a Swansea Sound.
Straeon perthnasol
- 6 Awst 2015
- 5 Chwefror 2015