Tri wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae tri pherson wedi'u hanafu - dau yn ddifrifol - yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys brynhawn Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 17:30 ar yr A44 yn Walton, sydd fymryn dros y ffin o Sir Henffordd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod criw o Drefyclo ac o Lanandras wedi cael eu gyrru i'r safle.
Cafodd menyw gydag anafiadau difrifol ei disgrifio fel bod mewn cyflwr difrifol iawn. Cafodd un dyn ei dorri allan o'i gerbyd, ac roedd ail ddyn yn medru cerdded o'r gwrthdrawiad, ond gydag anafiadau.
Fe gafodd tri ambiwlans eu galw ac fe gludwyd y tri i'r ysbyty.
Mae'r A44 yn dal ar gau i'r ddau gyfeiriad.