Gwahaniaethau 'annerbyniol' gofal canser yr ysgyfaint
- Cyhoeddwyd

Mae gwahaniaethau "annerbyniol" yn y gofal y mae cleifion canser yr ysgyfaint yn ei gael yng Nghymru, yn ôl arbenigwyr.
Mewn adroddiad, mae Cynghrair Canser yr Ysgyfaint ym Mhrydain yn dweud bod y ddarpariaeth yn anghyson, a bod cleifion yn llawer mwy tebygol o gael mynediad i driniaethau a nyrsys arbenigol mewn rhai rhannau o'r wlad.
Mae'r grŵp yn galw am gynyddu'r nifer o nyrsys arbenigol canser yr ysgyfaint, ac am bwysleisio manteision menter sgrinio cenedlaethol.
Maen nhw hefyd am weld cleifion yn cael mynediad i'r profion diagnosis molecwlar diweddaraf.
Canser yr ysgyfaint yw'r canser sy'n lladd y nifer mwyaf o bobl yng Nghymru, gan achosi 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn nodi'r cynnydd yn y tebygrwydd o oroesi'r canser yma dros y degawd diwethaf, ac yn dweud eu bod eisoes yn gweithredu ar yr argymhellion.
Straeon perthnasol
- 6 Ionawr 2015
- 10 Ebrill 2014
- 11 Mawrth 2014