Bocsiwr yn osgoi carchar ar ôl ymosodiad mewn tafarn
- Cyhoeddwyd

Mae'r bocsiwr Olympaidd Fred Evans wedi osgoi carchar ar ôl torri gên ei ffrind mewn tafarn.
Roedd Evans, 24 oed o Gaerdydd, wedi cyfaddef anafu Michael Wilson yn anghyfreithlon mewn tafarn yng Nghaerloyw.
Ef yw deiliwr medal arian pwysau welter y gemau Olympaidd ac roedd yn ail yn y rownd derfynol yn Llundain 2012.
Yn Llys y Goron Caerloyw cafodd ddedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.