Llai o bobl Cymru yn camddefnyddio alcohol a chyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Alcohol

Mae llai o bobol wedi mynd i'r ysbyty yng Nghymru oherwydd problemau cyffuriau neu alcohol, yn ôl ystadegau newydd.

Dangosodd ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru fod gostyngiad o 5.5% yn y rhai aeth i'r ysbyty oherwydd effeithiau alcohol yn 2014-15.

Bu cwymp hefyd yn y bobl aeth i'r ysbyty oherwydd cyffuriau.

Mae llai o unigolion ifanc wedi cael triniaeth ond bu cynnydd yn y nifer dros 50 oed am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd y ffigurau'n "galonogol dros ben," yn ôl pennaeth rhaglen camddefnyddio sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

'Ymyrraeth'

"Mae hyn yn dangos bod yr ymyrraeth yn digwydd cyn i'r sylweddau gychwyn peryglu bywydau," meddai Josie Smith.

"Beth mae'r data yn ei ddangos yw bod tueddiadau yn newid o ran y broblem cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, gyda llai o ddefnydd gan bobol ifanc hyd at 25 oed.

"Mae hynny'n cyferbynnu gyda'r cynnydd o fewn y boblogaeth hŷn."

Yn 2014-5 cafodd 9.4% yn llai o bobl ifanc eu trin na'r flwyddyn gynt, ond cafodd 7.5% yn fwy ymysg y rheiny dros 50 oed.

Roedd gan bron i 4,000 broblemau heroin, gyda'r mwyafrif o reiny'n ddynion yn eu 30au.

Canabis yw'r cyffur mwyaf cyffredin ymysg rheiny o dan 25 oed.