Angen barnwr â 'dealltwriaeth o'r Gymraeg' yn y Goruchaf Lys
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai o leiaf un barnwr yn y Goruchaf Lys fod â dealltwriaeth dda o'r Gymraeg, meddai un o aelodau Tŷ'r Arglwyddi.
Dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gresffordd fod angen cynrychiolaeth o Gymru ar y corff sy'n cynnwys 12 aelod.
Fe alwodd ar lywodraeth Prydain i addasu mesur drafft Cymru er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Fe fyddai'r newid yn diogelu bod sedd i farnwr "gyda phrofiad o weithredu'r gyfraith yng Nghymru a gwybodaeth o'r iaith Gymraeg," ychwanegodd yr aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae gan y Goruchaf Lys ddau farnwr o'r Alban ac un o Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Dywedodd y cyn arweinydd Llafur, Arglwydd Kinnock, fod angen confensiwn cyfansoddiadol i ddiffinio'r berthynas rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig.