Coffáu cyfraniad dyn y radar o Abertawe
- Published
Mae plac glas wedi ei ddadorchuddio oherwydd cyfraniad Cymro at dechnoleg radar oedd yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd.
Roedd yr Athro Edward Bowen yn wyddonydd ddatblygodd y dechnoleg radar gyfrannodd at lwyddiant y Cynghreiriaid yn y rhyfel.
Cafodd y plac ei ddadorchuddio tu allan i'r tŷ yng Nghocyd, Abertawe, ble oedd yn byw pan oedd yn blentyn.
Yn 1935 roedd radar yn golygu rhwydwaith o fastiau oedd yn 50 troedfedd o uchder.
Oherwydd ei waith roedd modd gosod dyfeisiadau radar yn 1943 ym mlaen awyrennau yn ystod Brwydr yr Iwerydd.
Felly roedd awyrennau'n gallu dod o hyd i longau tanfor yr Almaen hyd at 100 milltir i ffwrdd ond nid oedd y llongau'n gwybod am bresenoldeb yr awyrennau tan yr ymosodiad.
'Athrylith'
Cafodd Bowen ei eni yn 1911 a graddiodd ym Mhrifysgol Abertawe gyda gradd anrhydedd dosbarth cynta.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, yr aelod cabinet menter, datblygu ac adfywio: "Fe fyddai ein byd yn hollol wahanol oni bai am athrylith y dyn hwn ... oherwydd ei waith neilltuol fe gafodd y Cynghreiriaid y llaw ucha' yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
"Yn 1947 fe gafodd Fedal Anrhydedd America, y wobor ucha i rywun nad oedd yn ddinesydd yn y wlad honno."
Arweiniodd gwaith ymchwil Bowen at ddatblygiadau fel systemau rheoli awyrennau, setiau teledu pelydrau catod a ffyrnau microdon.