Cymraeg y prifysgolion
- Cyhoeddwyd

Beth yw pwrpas undebau a chymdeithasau Cymraeg ein prifysgolion yng Nghymru ac ym mha gyflwr maen nhw erbyn hyn?
Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wrthi'n ymgyrchu dros gael swyddog sabothol llawn amser ar gyfer y Gymraeg.
Mewn refferendwm wedi ei threfnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gynharach eleni, roedd 1,138 o blaid creu'r swydd. Ond pleidleisiodd 1,229 o fyfyrwyr yn erbyn y cynnig.
Hon oedd refferendwm fwyaf llwyddiannus yr Undeb erioed o ran y nifer gymrodd rhan. Mae'n bwnc sydd yn hollti barn yn amlwg.
Ond mae'r gymuned Gymraeg i weld yn unfrydol. Roedd hyd yn oed y Prif Weinidog Carwyn Jones yn barod iawn i gael ei ddweud, gan alw canlyniad y refferendwm yn un "anffodus".
Steffan Bryn, Swyddog y Gymraeg gwirfoddol rhan-amser Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, alwodd am y refferendwm:
"Mae 'na fwy o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn dod i Brifysgol Caerdydd na unrhyw brifysgol arall yng Nghymru o ran niferoedd ac mae angen i'r brifysgol wneud rywbeth am hynny.
"Maen nhw wedi penodi aelod o staff i fod yn gyfrifol am gyfieithu, marchnata a'r polisi iaith Gymraeg, ond 'da ni'n galw ar y brifysgol i ariannu swydd y swyddog yn llawn amser. Mae'n bwysig fod y myfyrwyr Cymraeg yn cael llais teg."
Canolbwynt cymdeithasu
Y Gymdeithas Gymraeg, neu'r 'Gym Gym', yw prif fan ymgynnull myfyrwyr Caerdydd ar hyn o bryd, ac hi sydd wedi gwneud hynny ers degawdau.
Fel 'Y Geltaidd' yn Aberystwyth, mae'n gweithio - fel mae'r enw yn ei awgrymu - fel ffordd o gael myfyrwyr Cymraeg y brifysgol i gymdeithasu, ac mae hynny'n aml iawn yn digwydd drwy gynnal 'crôls' o amgylch tafarndai'r brifddinas.
Roedd y canwr a'r cyn-wleidydd Dafydd Iwan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn aelod o'r Gym Gym yn ystod y 60au.
Mae'n cofio'r dyddiau cynnar lle roedd y Gym Gym a thŷ tafarn ddim yn mynd law yn llaw.
"Roedd y symudiad o ganu emynau wrth gerrig yr orsedd i'r dafarn ar ôl y cyfarfodydd yn symudiad hanesyddol o ran diwylliant," meddai. "Arweiniodd hynny at sefydlu tafarnau Cymraeg - y Moira yn Sblot i ddechra', ac yna'r New Ely, cyn i'r 'llwyddiant' ymestyn i sawl tafarn arall.
"Y peth pwysig oedd fod gan y Cymry Cymraeg ddewis o wahanol lefydd difyr i ymgasglu ynddyn nhw; roedd y capeli yn denu rhai, ac Aelwyd yr Urdd a Tŷ'r Cymry yn denu eraill, ond arweiniodd cyfnod y New Ely at sefydlu Clwb Ifor Bach yn y pen draw fel roedd yr hyder yn codi, ac at sefydlu timau rygbi a phêl-droed Cymraeg, ac yna'n ddiweddarach, y corau wrth gwrs."
Draw yn Aber...
Er mai Cwrt Senghenydd yw prif leoliad preswylio'r Cymry Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, does ganddi ddim yr un statws - na'r hanes - â'r un yn Aberystwyth.
Ond y frwydr i ddiogelu Neuadd Pantycelyn sydd yn mynd â bryd pawb yno y dyddiau yma.
'Nôl ym mis Mehefin, cafodd y neuadd breswyl ei meddiannu gan fyfyrwyr ac aelodau Cymdeithas yr Iaith fel rhan o brotest i'w diogelu fel llety i fyfyrwyr Cymraeg.
Hanna Medi Merrigan yw Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) eleni.
"Mae Pantycelyn yn hanfodol ar gyfer gweld y Gymraeg yn ffynnu ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'n hen bryd bod y brifysgol yn sylweddoli cymaint o ased yw hi iddyn nhw," meddai Hanna.
"Pantycelyn yw calon a chanolbwynt y gymuned Gymraeg yn Aberystwyth. Mae'r ymdeimlad o berthyn sydd rhwng myfyrwyr presennol, cyn-fyfyrwyr a'r gymuned ehangach gyda Phantycelyn yn rhywbeth sydd angen ei drysori.
"Byddai colli Pantycelyn nid yn unig yn golled i Aberystwyth, ond yn golled i Gymru gyfan."
Er hynny, mae UMCA yn parhau i fwynhau perthynas gyfeillgar o fewn y brifysgol.
Ond mae gofid bod yr ansicrwydd am Neuadd Pantycelyn yn mynd i gael effaith ar allu'r undeb i weithredu ar ran y myfyrwyr Cymraeg.
"Mae'n frwydr barhaus yma'n Aberystwyth i recriwtio ac annog pobl i ymuno gyda'r gymdeithas Gymraeg," dywedodd. "Yn dilyn cau Pantycelyn fel llety cyfrwng Cymraeg mae'r gymdeithas Gymraeg bellach ar wasgar, ac mae'n her i ni fel UMCA i gysylltu gyda nhw a sicrhau eu bod dal yn teimlo fel petaent yn perthyn i'r gymuned Gymraeg fyw sydd gyda ni yma.
"Bydd y frwydr i achub Pantycelyn yn cael effaith mawr ar y gymuned Gymraeg yn Aberystwyth."
Dyfrig Berry oedd llywydd UMCA yn 1975/76 - y flwyddyn gyntaf i'r undeb fod yn gweithredu fel mae hi heddiw.
"O ran y cymdeithasu, fedra i ddim meddwl bod llawer wedi newid ers y dyddiau hynny!" meddai'r cyn-athro, sydd bellach yn reolwr Technoleg Gwybodaeth yn Ysgol Eirias ym Mae Colwyn.
"Roedd Y Geltaidd mewn bodolaeth cyn UMCA, dyna oedd prif gymdeithas Gymraeg Aber, a hi fuodd yn brwydro dros sefydlu Pantycelyn.
"Roedd y cyd-weithrediad efo'r myfyrwyr yn arbennig, ond mae'n edrych i mi fod hi'n well adeg hynny na ma' hi wedi bod yn ddiweddar."
Ond beth mae'n ei feddwl o'r undeb bron i ddeugain mlynedd ers gadael?
"Mi fydd wastad angen undeb Gymraeg. Dim yn unig i allu cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond i allu brwydro dros hawliau ei haelodau am faterion fel llety ac arian ac ati. Ond mae'r iaith yn ffactor ychwanegol."
Y sefyllfa ym Mangor
Ifan James, sy'n 21 ac yn wreiddiol o Abertawe, yw llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) eleni.
Mae'n dweud fod yr undeb yn derbyn cefnogaeth gan y brifysgol a bod bywyd cymdeithasol da iawn yno.
"Mae 20% o myfyrwyr Bangor yn siarad Cymraeg," meddai. "Mae Clwb Cymru yn cael ei gynnal unwaith y mis ble mae'r myfyrwyr yn dod at ei gilydd i gymdeithasu, ac mae ganddo ni dripiau sy'n cael eu trefnu.
"Ond 'dyn ni hefyd yn gweithio'n agos 'da Cymdeithas Llywelyn o fewn UMCB i roi mwy o gyfleon i ddysgwyr gael synnwyr o Gymru a'r Gymraeg."
Er fod myfyrwyr Cymraeg Bangor wedi gorfod symud unwaith eto ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'r gymuned Gymraeg yn parhau'n gryf ar safle newydd John Morris Jones, neu 'JMJ', yn y Ffriddoedd - gydag UMCB yn chwarae rhan ganolog.
Ac er fod gan Gaerdydd gamau mawr i'w cymryd er mwyn cyrraedd yr un statws â Fangor ac Aberystwyth, mae Steffan Bryn yn grediniol ei bod nhw ar y trywydd iawn.
"Mae'r is-ganghellor wedi bod yn gefnogol i'r Gymraeg - fydda fo ddim yn costio llawer i greu'r swydd yn llawn amser - a dwi'n hyderus y bydd o am ein cefnogi fel myfyrwyr."