Pentref yn paratoi i ddathlu llwyddiant Nigel Owens

  • Cyhoeddwyd
BanerFfynhonnell y llun, @sadiedowen

Mae Mynyddcerrig, pentref genedigol Nigel Owens, yn paratoi i ddathlu ei rôl fel dyfarnwr ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd ddydd Sadwrn.

Yn gynharach yn yr wythnos cafodd ei ddewis i ddyfarnu'r gêm rhwng Awstralia a Seland Newydd ac mae ei fro enedigol yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddathlu'r diwrnod mawr.

Mae disgwyl y bydd tyrfa yn gwylio'r gêm ar sgrin fawr yng Nghlwb y Gweithwyr lle mae Nigel yn llywydd.

Ar ôl gweld baner fawr yn ei longyfarch ar un o strydoedd y pentref dywedodd ar wefan Twitter: "Roedd gen i ddeigryn yn fy llygaid wrth weld hwn. Pobl Mynyddcerrig, fy mhentref genedigol, rydych yn fy ngwneud i mor falch o ble rwyf i'n dod."

Dyma fydd y bumed gêm yn y bencampwriaeth iddo ddyfarnu ar ôl Tonga v Georgia, Yr Alban v De Affrica a Ffrainc v Iwerddon yn ogystal â'r gêm go gyn derfynol rhwng Seland Newydd a Ffrainc.

Yr ail Gymro

Bydd y ffeinal yn dechrau am 16:00 ddydd Sadwrn yn Twickenham a Jerome Garces a Wayne Barnes fydd yn cynorthwyo Nigel.

Y dyn 44 oed yw'r unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan y Byd eleni ac roedd yn aelod o banel dyfarnwyr 2011 a 2007.

Fe yw'r ail Gymro i ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd ar ôl Derek Bevan oedd yn dyfarnu wrth i Awstralia guro Lloegr yn 1991. Dywedodd Nigel ei bod yn "fraint ac yn anrhydedd", gan ychwanegu:

"Dyma fy nhrydydd Cwpan Rygbi'r Byd, a dwi'n meddwl taw hwn yw'r un gore. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth.

"Mae safon y rygbi wedi bod yn anhygoel o flaen torfeydd llawn, ac felly mae cael y cyfle i ddyfarnu'r ffeinal rhwng y timau gore yn y gystadleuaeth yn fraint."

Ffynhonnell y llun, PA

O Fynyddcerrig i ffeinal Cwpan y Byd

  • Cafodd ei fagu ym Mynyddcerrig, Sir Gâr. Cyn cymhwyso fel dyfarnwr bu'n gweithio fel technegydd yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa;
  • Fe gymhwysodd fel dyfarnwr yn 2005;
  • Wedi iddo ddweud mewn cyfweliad yn 2007 ei fod yn hoyw, fe gafodd ei enwi'n 'Bersonoliaeth Chwaraeon Hoyw y Flwyddyn' gan elusen Stonewall wedi Cwpan Rygbi'r Byd y flwyddyn honno;
  • Cafodd ei hunangofiant ei gyhoeddi yn 2008 a'i gyfieithu i'r Saesneg yn 2009;
  • Yn 2011 cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd;
  • Mae'n ymwneud â nifer o ymgyrchoedd i amddiffyn pobl hoyw a thrawsrywiol a fe yw noddwr elusen Bullies Out yng Nghymru.