Apêl Nadolig yn dathlu pen-blwydd yn Wrecsam

Rhoddion Image copyright Aimee Jane

Bydd apêl elusennol, sy'n gofyn i bobl gyflenwi anrhegion i achosion drwy lenwi bocsys esgidiau, yn dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu eleni.

Gobaith ymgyrch Bocs Esgidiau Nadolig 2015 yw cyflenwi 25,000 o focsys i blant a theuluoedd anghenus yn nwyrain Ewrop.

Mae'r trefnwyr yn gofyn i bobl gynnig nwyddau angenrheidiol fel pecynnau addysg a llyfrau, deunydd ysgrifennu, past dannedd, brwsh gwallt a sebon.

Ac mae croeso i bobl roi teganau bychain yn y bocsys hefyd.

Cafodd ymgyrch Operation Christmas Child ei sefydlu gan Dave Cooke o Wrecsam yn 1990 ac yn 2006 sefydlodd elusen Teams4U.

'Achos teilwng'

Wrth lansio'r apêl eleni, dywedodd yr AC Lesley Griffiths: "Rwyf wrth fy modd i lansio apêl bocs esgidiau'r Nadolig ar ben-blwydd yr ymgyrch yn 25 oed.

"Mae'n achos teilwng ac rwyf yn hynod o falch fod yr ymgyrch leol yma wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i blant a rhieni ar draws y byd.

"Gall Wrecsam fod yn falch iawn o'i gysylltiad gyda syniad gwreiddiol bocs esgidiau Nadolig. Y prif reswm am lwyddiant parhaus yr ymgyrch ydi haelioni pobl leol ac rwy'n gobeithio y bydd yr apêl eleni y fwyaf llwyddianus eto.

Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Ian Lucas: "Fe ddechreuodd Dave a'i dîm rywbeth arbennig ac mae eu gwaith wedi datblygu'n draddodiad bob Nadolig - nid yn Wrecsam yn unig ond ar hyd y byd.

"Rwy'n gwybod y bydd pobl Wrecsam yn gwneud eu gorau i gefnogi'r apêl eleni."