Cylchgrawn yn ymddiheuro am ddodi Caerdydd yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Twitter @Leighton Andrews
'O diar,' meddai Leighton Andrews AC ar Twitter
Mae cylchgrawn wythnosol llywodraeth leol wedi ymddiheuro am "wall wrth gynhyrchu" ar ôl gosod Caerdydd yn ne-orllewin Lloegr.
Ar ôl i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews dynnu sylw at y camgymeriad ar Twitter dywedodd y cylchgrawn MJ (Municipal Journal): "Ymddiheuriadau am y camgymeriad wrth gynhyrchu, llywodraeth leol nid daearyddiaeth yn amlwg yw ein cryfder!"
Yn gynharach yn y mis golygodd problem dechnegol gyda Google Maps fod Bannau Brycheiniog wedi eu lleoli yng nghanol Llundain ar fap y cwmni.
Mae'r MJ yn disgrifio ei hun fel "cylchgrawn wythnosol mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer prif weithredwyr cynghorau a'u timau o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol a sectorau cysylltiedig".
Straeon perthnasol
- 1 Hydref 2015
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol