Edrych' nôl ar Gwpan y Byd 2015

  • Cyhoeddwyd
final

Felly, fel yr oedd y rhan helaeth o'r gwybodusion wedi ei ragweld, Seland Newydd ac Awstralia fydd yn brwydro am Gwpan Webb Ellis yn Twickenham ar 31 Hydref.

Dyw hyn ddim yn sioc i'r mwyafrif, mae ambell syrpreis wedi bod dros y chwech wythnos ddiwetha' yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Gareth Rhys Owen o'r Clwb Rygbi sy'n cloriannu'r cyfan i BBC Cymru Fyw:

Colli hunan barch

Anaml iawn y ma' unrhyw fath o chwaraeon wedi achosi i mi golli rheolaeth yn llwyr. Wedi'r cyfan, mae'n rhan o fy swydd i sicrhau mod i'n cadw'r ddisgyl emosiynol yn wastad. Ond, fe ddigwyddodd hyn i mi unwaith yn ystod Cwpan y Byd eleni.

Yn wahanol i Ioan Gruffudd, Jonathan Davies a gweddill y genedl, nid cais Gareth Davies orfododd i mi ruo fel gorila gwyllt. Yn hytrach y gêm, a oedd ar bapur yn ymddangos fel y lleia' deiniadol ohonyn nhw'i gyd oedd honno - Japan v De Affrica yn Brighton.

Roedd ambell i fwci wedi rhoi pris o 200/1 ar y gwŷr o'r Dwyrain Pell. Yn wir, nes i (fel y mwyafrif o'r gwylwyr) ond ymuno 'da'r gêm yn ystod y 10 munud ola' pan awgrymodd y gwefannau cymdeithasol bod eiliad hanesyddol yn edrych yn bosib'. Fe enillodd Japan, ac fe golles i fy hunan barch.

Dyna uchafbwynt y gystadleuaeth i fi, ond mae nifer o atgofion melys eraill y bydda' i yn eu trysori.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Tybed ai Pocock fydd yn serennu yn y rownd derfynol?

David Pocock. Os oes gan unrhyw un ohono chi syniad be' mae e'n ei fwyta i frecwast? Da chi cysylltwch â fi. Bwystfil o chwaraewr.

Disgrifiad o’r llun,
Perfformiad Picamoles oedd unig gysur y Ffrancwyr yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon

Louis Picamoles. Yr unig Ffrancwr i gynnig unrhyw her i Seland Newydd yn ystod rownd yr wyth ola' hynod unochrog . Roedd Ffrainc yn warthus, y Crysau Duon yn wefreiddiol, a Julian Savea yn efelychu campau Jonah Lomu wrth yrru dros amddifynwyr truenus ar ei ffordd i'r linell gais.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd y ganolfan gefnogwyr, neu'r 'fanzone', yn boblogaidd iawn yng Nghaerdydd

Canolfannau Cefnogwyr, neu'r 'fanzones'. Awgrym o'r hyn fydd ar gael i genfogwyr Cymru yn ystod pencampwriaethau pêl-droed Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesa'. Roedd yna awyrgylch arbennig yn y fanzone yng Ngaerdydd gyda miloedd o gefnogwyr Gwyddelig yn ymateb fel fi i gampau Japan.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd olwyr yr Ariannin yn ormod i'r Gwyddelod yn rownd yr wyth ola'

Olwyr yr Ariannin. Mae gallu sgrymio'r Archentwyr yn ystrydeb mor ail-adroddus ag effeithlonrwydd yr Almaenwyr ac anghysondeb y Ffrancwyr. Ond eleni fe ddangoso' nhw bo' nhw'n medru 'chwarae'.

Roedd yr asgellwyr Imhoff a Cordero yn drydannol, gyda Tuculet yn rhoi awgrym o'r hyn y gallai cefnogwyr y Gleision wedi ei weld y llynedd petasai wedi gael gwell gwasanaeth.

Disgrifiad o’r llun,
Y teimlad 'na pan 'dych chi wedi trechu'r hen elyn...

Y rygbi. Ydy, mae'n gorfforol ac ar adegau'n beryglus ond mae yna rhythm i gêm rygbi gystadleuol ar y lefel ucha' un. Falle, bod campau eraill yn cynnig arlwy mwy deniadol i'r llygaid a llai cymhleth i'r meddwl ond i'r galon mae'n anodd dadlau â'r ddrama.

Roedd y frwydr yn erbyn Lloegr yn ddrama o'r radd flaena', ac i ni'r Cymry, o leia' fe orffennodd yr olygfa honno ar nodyn uchel.

Seland Newydd v Awstralia, ar S4C a BBC Radio Cymru, Dydd Sadwrn, 31 Hydref, 15:15