Tad milwr o Wynedd yn 'flin' dros ddyddiad Chilcot

  • Cyhoeddwyd
Richard KeysFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw'r is-gorpral Richard Keys, 20, o Lanuwchllyn, ger y Bala, yn 2003.

Mae tad milwr o Wynedd a fu farw yn Irac yn "flin" ac wedi ei "siomi'n arw" na fydd ymchwiliad Chilcot yn cael ei gyhoeddi eleni.

Dywedodd Syr John Chilcot ddydd Iau mai mis Mehefin neu Orffennaf 2016 bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.

Yn ôl Reg Keys mae "mymryn o gysur" nawr bod dyddiad wedi ei gyhoeddi.

Bu farw mab Mr Keys, yr is-gorpral Richard Keys, 20, o Lanuwchllyn, ger y Bala, yn 2003.