Tri wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy
- Published
Mae tri o bobl wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ger Tal-y-bont yn Sir Conwy.
Bu farw Ross John Dickinson, 32, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Jodie, a Paul Eric Gardner, 82, yn y gwrthdrawiad nos Iau.
Nid yw'r heddlu wedi rhyddhau enw'r trydydd person fu farw.
Cafodd dynes 59 oed ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau difrifol iawn, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.
Galwyd yr heddlu i'r B5106 ychydig cyn 21:00 nos Iau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar.
Dywedodd y Prif Arolygydd Martin Best o uned blismona'r ffyrdd: "Tua 20:45 neithiwr roedd yna wrthdrawiad rhwng Ford Fiesta gwyrdd a Peugeot 208 coch ar ffordd y B5106 ger Tal-y-bont, Conwy.
"Yn drasig, bu farw'r tri oedd yn y cerbydau yn y fan a'r lle ac mae'r crwner wedi ei hysbysu.
"Mae teithiwr oedd yn y Peugeot wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn.
"Bydd swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i'r teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn ac rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i'r teuluoedd."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod S166072.