Cyrchoedd canabis: Arestio 10 yn Abertawe
- Published
Cafodd 10 dyn eu harestio mewn cyrchoedd gwrth-gyffuriau yn Abertawe brynhawn Iau.
Daeth Heddlu'r De o hyd i werth £10,000 o ganabis ac arian, ac fe feddiannon nhw nifer o gerbydau.
Mae pump o'r dynion yn cael eu holi ar amheuaeth o fod â chanabis yn eu meddiant, a'r pump arall ar amheuaeth o fod â chanabis yn eu meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.
Maen nhw i gyd rhwng 21 a 42 mlwydd oed.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Johnson fod y cyrchoedd wedi digwydd wedi i bobl leol fynegi eu pryderon am gyffuriau yn yr ardal.