Comisiynydd: 'Gwnewch newid enwau lleoedd yn drosedd'
- Cyhoeddwyd

Dylai newid enwau lleoedd hanesyddol fod yn drosedd, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Meri Huws y dylai rhai enwau gael eu cofnodi a'u gosod ar "gofrestr statudol".
Daw ei sylwadau yn dilyn penderfyniad dadleuol cwmni i alw Plas Gynllifon ger Caernarfon yn "Wynnborn Mansion" yn eu deunydd marchnata ar-lein.
Ond dywedodd y dirprwy weinidog diwylliant, Ken Skates, y byddai hi'n "anodd iawn" gosod amddiffyniad statudol ar enwau.
Tra'n siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC, dywedodd Ms Huws fod y Bil Amgylchedd Hanesyddol, sy'n cael ei drafod yn y Cynulliad ar hyn o bryd, yn rhoi "cyfle go-iawn i ni ddiogelu enwau drwy gofrestr statudol, fel sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd".
"Mae 'da ni enwau lleoedd Cymraeg yng Nghymru, mae 'da ni enwau Saesneg, mae 'da ni enwau Llychlyn, mae 'da ni hefyd enwau Gwyddeleg a Fflemeg, ond mae e i gyd yn rhan o'n hanes ni ac mae'r hanes hwnnw'n hanfodol i ni fel pobl", meddai.
Mae'r dirprwy weinidog diwylliant wedi dweud yn barod ei fod am gynnig gwelliant i'r bil fel bod enwau hanesyddol yn cael eu hychwanegu at gofnodion lleol, ond dywedodd y Comisiynydd: "Os 'dyn ni am gofrestru enw, cam bach yw gosod amddiffyniad statudol ar yr enw hwnnw".
"Byddai rhaid ystyried sut yn union y gallwn eu amddiffyn, ond 'dyn ni'n gwneud hynny ar gyfer adeiladau, felly pam lai ei wneud ar gyfer enwau?"
Dywedodd Mr Skates wrth y rhaglen y byddai'r hyn sy'n cael ei awgrymu er mwyn diogelu enwau "yn golygu llawer o fiwrocratiaeth a gwaith gweinyddol".
"Dydw i ddim yn diystyru'r posibilrwydd o osod amddiffyniad statudol ar enwau lleoedd, ond mae'n annhebygol y byddai'r hyn sy'n cael ei awgrymu yn ymarferol", meddai.
Sunday Politics Wales, dydd Sul 1 Tachwedd am 11:00 ar BBC One Wales.