Bethan fydd pennaeth canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Bethan Williams wedi cael ei phenodi'n gyfarwyddwr Yr Hen Lyfrgell, canolfan Gymraeg newydd yng Nghaerdydd.
Bydd y ganolfan ar yr Aes yng nghanol y brifddinas yn agor yn swyddogol ym mis Ionawr.
Bwriad y fenter yw hyrwyddo'r iaith drwy gynnig cyfleusterau a gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae hi'n ymuno â'r prosiect wedi cyfnod gyda Chwaraeon Cymru fel Swyddog Digwyddiadau a Marchnata.
Dywedodd: "Mae hi'n fraint i gael fy mhenodi yn gyfarwyddwr a dwi'n hynod o falch o gael bod yn rhan o'r fenter arloesol.
"Mae'n adeg gyffrous i'r Gymraeg ac mae'n bwysig ein bod yn cipio'r cyfle unigryw yma i ddathlu a hyrwyddo'r iaith.
'Dathlu'
"Bydd Yr Hen Lyfrgell yn perthyn i holl bobl Caerdydd ac mae'n bwysig ein bod ni'n denu cymaint ohonyn nhw â phosib drwy'r drysau i brofi'r Gymraeg".
Menter Caerdydd sy'n arwain y prosiect aml-bartneriaeth.
Dywedodd prif weithredwr y fenter, Siân Lewis: "Bydd Yr Hen Lyfrgell yn atyniad unigryw yng nghanol y brifddinas gyda'r iaith Gymraeg yn fodd o ddathlu popeth sy'n wych am Gymru a'i phrifddinas."