Alun Wyn ar restr fer Gwobr Chwaraewr Rygbi'r Byd
- Cyhoeddwyd

Chwaraeodd ran allweddol i Gymru yng Nghwpan y Byd
Mae Alun Wyn Jones ymhlith chwe chwaraewr ar restr fer Gwobr Chwaraewr Rygbi'r Byd.
Y pump arall yw Greig Laidlaw o'r Alban, Dan Carter a Julian Savea o Seland Newydd a David Pocock a Michael Hooper o Awstralia.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Tachwedd, ddiwrnod ar ôl ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd yn Twickenham.
Chwaraeodd Jones ran allweddol i Gymru yng Nghwpan y Byd.
Enillodd ei 100fed gap yn y gêm yn erbyn De Affrica.
Ffynhonnell y llun, Twitter
Mae pêl-droediwr Cymru, Aaron Ramsey yn un o nifer sydd wedi llongyfarch Alun Wyn Jones ar ei enwebiad