'Dylid preifateiddio Maes Awyr Caerdydd'
- Cyhoeddwyd

Dylai Maes Awyr Caerdydd gael ei breifateiddio o fewn y pum mlynedd nesaf, yn ôl y cadeirydd sy'n gadael y swydd.
Cafodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe ei benodi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013, pan brynon nhw'r maes awyr am £52m.
Dywedodd wrth BBC Cymru bod y llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir i brynu'r safle, er mwyn "atal y dirywiad".
Ond fe wrthododd ddweud a oedd gweinidogion wedi talu gormod.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud na fyddan nhw'n ymateb i'w sylwadau.
'Gwaith caled'
Yn ôl yr Arglwydd Rowe-Beddoe, mae llawer o "waith caled" wedi ei wneud i ddenu cwmnïau awyr a'r cyhoedd yn ôl i Faes Awyr Caerdydd.
Mae'n cynnal tua 1,700 o swyddi ac yn cyfrannu tua £100m y flwyddyn i'r economi.
Mae tua miliwn o deithwyr yn defnyddio'r maes awyr bob blwyddyn, ond mae hynny'n llawer llai na'r chwe miliwn sy'n defnyddio Maes Awyr Bryste.
Ond mae nifer y teithwyr wedi bod yn cynyddu'n raddol wrth i gwmni Flybe gynnig teithiau newydd yn ddiweddar.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo rhoi'r maes awyr yn ôl yn nwylo preifat erbyn 2021.
Yn ôl yr Arglwydd Rowe-Beddoe, mae'n deall pryderon rhai am benderfyniad y llywodraeth i'w brynu, ond mae'n cymharu gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i achub y banciau rhag mynd i'r wal.
Dywedodd ei fod yn "realistig" i ddisgwyl i'r maes awyr gael ei breifateiddio o fewn y blynyddoedd nesaf.
Mae hefyd yn credu bod teithiau ar draws Môr yr Iwerydd yn bosibilrwydd at y dyfodol, gan ddweud bod trafodaethau gyda chwmnïau o'r Unol Daleithiau a'r dwyrain pell eisoes wedi digwydd.
Ar hyn o bryd mae gan y maes awyr y capasiti i wasanaethu 2.5m o deithwyr bob blwyddyn. Mae tua 30% yn draffig busnes, ond mae'n fwriad i'r maes awyr ddatblygu hynny.