Pro12: Scarlets 25-15 Dreigiau

Regan king Jake Cowley
Image caption Daeth Jake Cowley (dde) i'r cae fel eilydd i ymuno a'i dad, Regan King

Mae tad a mab wedi chwarae i'r un tîm yn y Pro12 am y tro cyntaf, wrth i'r Scarlets guro'r Dreigiau nos Wener.

Daeth yr asgellwr Jacob Cowley, 18, i'r cae i ymuno gyda'i dad, Regan King, ar ôl i'r Scarlets sicrhau pwynt bonws.

Sgoriodd y prop Phil John ddau gais a daeth dau gais hefyd gan James Davies ym Mharc y Scarlets.

Daeth ceisiau'r ymwelwyr gan Jason Tovey a Sarel Pretorius, wrth i Tovey hefyd gicio trosiad a chic gosb.

Daeth pum pwynt i'r Scarlets o droed Aled Thomas.

Mae'r Scarlets wedi symud i frig y Pro12 wedi'r fuddugoliaeth, dau bwynt uwchben Munster yn yr ail safle, ac mae'r Dreigiau yn wythfed.

Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Phil John sgoriodd gyntaf i'r Scarlets
Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Roedd Taulupe Faletau yn ôl i'r Dreigiau wedi Cwpan y Byd

Scarlets: Aled Thomas; Tom Williams, Regan King, Hadleigh Parkes, Harry Robinson; Steven Shingler, Rhodri Williams; Phil John, Ken Owens (c), Peter Edwards, Jake Ball, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay.

Eilyddion: Emyr Phillips, Dylan Evans, Will Taylor, George Earle, Jack Condy, Aled Davies, Dan Jones, Jacob Cowley.

Dreigiau: Jason Tovey; Ashton Hewitt, Adam Hughes, Adam Warren, Nick Scott; Dorian Jones, Charlie Davies; Boris Stankovich, Elliot Dee, Brok Harris, Matthew Screech, Rynard Landman (c), Ed Jackson, Nic Cudd, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Shaun Knight, Cory Hill, Ollie Griffiths, Sarel Pretorius, Geraint Rhys Jones, Carl Meyer.