Dyfroedd ymdrochi Cymru'n cwrdd â safonau Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd

Mae dyfroedd ymdrochi Cymru wedi cwrdd â safonau newydd llymach yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd system newydd o brofi dŵr nofio ei gyflwyno yn 2015, gyda'r nod o wella ansawdd dyfroedd ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd.
Llwyddodd 82 o 102 o ddyfroedd ymdrochi Cymru i gwrdd a'r safon uchaf o ansawdd rhagorol, gydag 16 yn cael eu hystyried yn "dda" a phedwar yn cwrdd a'r safon digonol. Does yr un o ddyfroedd Cymru'n cael ei ystyried i fod o ansawdd gwael.
'Angen cynnal y safonau'
Wrth groesawu'r canlyniadau, dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant:
"Ein harfordir hardd ni yw un o'r prif atyniadau i filiynau o dwristiaid bob blwyddyn. Drwy gyrraedd y targedau llym hyn y mae'r UE wedi'u gosod, gallwn fod yn ffyddiog y bydd pawb sy'n ymweld â glan y môr yng Nghymru'n mwynhau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel, fel y byddent yn ei ddisgwyl.
"Mae angen inni gynnal y safonau uchel hyn yn awr, fel bod pawb ohonom yn cael parhau i fwynhau holl fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ein dŵr ymdrochi."
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cydgasglu'r ystadegau am ein dyfroedd ymdrochi; maen nhw'n cymryd samplau yn rheolaidd drwy gydol y tymor ymdrochi (o 15 Mai i 30 Medi) ac mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gwirio'r wybodaeth wedyn.
Ar hyn o bryd mae 102 o ddyfroedd ymdrochi wedi'u cofnodi yng Nghymru.
Traethau yw 101 ohonynt ac mae un yn llyn, sef Llyn Padarn, Gwynedd.
'Newyddion gwych'
Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'n newyddion gwych bod dyfroedd ymdrochi Cymru wedi pasio'r profion ansawdd eleni. Er gwaethaf safonau llym newydd yr UE, mae tri chwarter ein dyfroedd ymdrochi o safon rhagorol yr haf hwn.
"Bydd ein dyfroedd ymdrochi glân, ein harfordir a'n hamgylchedd naturiol yn parhau i gynnig manteision lu i bobl Cymru ac i ymwelwyr. I lawer o deuluoedd, gwyliau ger y môr neu ddiwrnod ar y traeth yw eu hoff weithgaredd felly mae'r llwyddiant hwn yn newyddion gwych i drigolion, amgylchedd ac economi ein gwlad.
"Ein sialens ni rwan yw cynnal y safon uchel hon, a byddwn yn dal ati i weithio'n galed i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol a sicrhau bod ansawdd ein dyfroedd yn aros yn uchel."