Dyn yn yr ysbyty wedi tân mewn carafan ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Tan

Mae dyn 47 oed mewn cyflwr "gwael ond sefydlog" mewn uned losgiadau ar gyrion Lerpwl ar ôl tân mewn carafan statig ym Mryngwran ar Ynys Môn.

Gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd eu galw am 12:05 fore dydd Sadwrn, a llwyddodd criwiau o Gaergybi a Rhosneigr i ddiffodd y fflamau.

Mae ymchwilwyr wedi bod yn archwilio'r safle yn ystod y dydd i geisio darganfod sut y dechreuodd y tân.

Ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd, cafodd y dyn ei drosglwyddo i ofal ysbyty Whiston ar Lannau Mersi.