Pro12: Zebre 26-15 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Zebre GleisionFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Parhau mae tymor siomedig Gleision Caerdydd yng nghystadleuaeth y Pro12 ar ôl i'r tîm golli oddi cartref yn erbyn Zebre.

Fe chwaraeodd y tîm cartref rygbi ymosodol neulltiol ar adegau, yn sgorio pedwar gais - dau o'r rheiny i Dries van Schalkwyk - ac yn sicrhau pwynt bonws.

Adam Thomas a Tom James groesodd i'r Gleision, ond doedd e ddim yn ddigon i faeddu'r Eidalwyr.

Ar ôl chwarae chwe gêm, dim ond un fuddugoliaeth mae'r Gleision wedi ei sicrhau yn y gystadleuaeth y tymor hwn.

Zebre: Dion Berryman; Kayle Van Zyl, Giulio Bisegni, Matteo Pratichetti, Leonardo Sarto; Carlo Canna, Luke Burgess; Andrea Lovotti, Andrea Manici, Dario Chistolini, Quintin Geldenhuys, George Biagi (capten), Jean Cook, Johan Meyer, Andries Van Schalkwyk.

Eilyddion: Oliviero Fabiani, Andrea De Marchi, Pietro Ceccarelli, Valerio Bernabò, Jacopo Sarto, Marcello Violi, Guglielmo Palazzani, Edoardo Padovani.

Gleision Caerdydd: Dan Fish; Blaine Scully, Tom Isaacs, Adam Thomas, Tom James; Rhys Patchell, Tavis Knoyle; Sam Hobbs, Matthew Rees, Taufa'ao Filise, Lou Reed, James Down, Josh Turnbull, Ellis Jenkins, Josh Navidi (capten).

Eilyddion: Ethan Lewis, Thomas Davies, Craig Mitchell, Macauley Cook, Manoa Vosawai, Lloyd Williams, Gareth Davies, Garyn Smith.