Rhagor o aur i'r Cymry yn Doha
- Cyhoeddwyd

Ym Mhencampwriaeth Athletau Anabledd y Byd yr IPC yn Doha, cipiodd Hollie Arnold fedal aur am daflu'r waywffon yn nosbarth T46.
Roedd ei thafliad o 40.53m yn record newydd i'r gystadleuaeth.
Aur hefyd oedd lliw medal Olivia Breen oedd yn rhan o dim ras gyfnewid Prydain dorodd record y Byd.
Yn y cyfamser, daeth y Cymro o Donypandy, Rhys Jones, yn seithfed yn rownd derfynol y can metr, dosbarth T37.