Abertawe 0-3 Arsenal

  • Cyhoeddwyd
Abertawe v ArsenalFfynhonnell y llun, Getty Images

Colli'n drwm wnaeth Abertawe ar eu tir eu hunain yn erbyn Arsenal ddydd Sadwrn.

Aeth Olivier Giroud â'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl hanner amser, gyda'i bedwaredd gôl mewn pump gêm.

Llwyddodd Laurent Koscielny i ddyblu'r fantais wedi i gyn gôl-geidwad y Gunners, Łukasz Fabianski ollwng y bel.

Joel Campbell rwydodd y drydedd gan sicrhau'r bumed fuddugoliaeth o'r bron i Arsenal yn yr Uwch Gynghrair.

Prynhawn siomedig i Abertawe, welodd Bafetimbi Gomis yn gwastraffu cyfle gwych i sgorio.