Glasgow 31-19 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Glasgow GweilchFfynhonnell y llun, SNS

Mae tymor siomedig y Gweilch yng nghystadleuaeth y Pro12 yn parhau ar ôl colli o 31 i 19 yn erbyn Glasgow.

Roedd y Gweilch ar y blaen ar yr hanner diolch i gicio Dan Biggar ond fe sicrhaodd ceisiau gan Sean Lamont, Greg Peterson, Alex Allan a Taqele Naiyaravoro fuddugoliaeth gyfforddus i'r tîm cartre yn y pendraw.

Mae'r Gweilch yn y safle isaf ond un yn nhabl y Pro12, ar ôl sicrhau dim ond un fuddugoliaeth o chwech.

Ac er i Glasgow ennill y bencampwriaeth y llynedd, dyw'r tîm ddim yn cystadlu cystal eleni, felly mae'r fuddugoliaeth a'r pwynt bonws yn gryn achos dathlu.

Glasgow: Tommy Seymour; Lee Jones, Richie Vernon, Peter Horne, Sean Lamont; Duncan Weir, Mike Blair; Gordon Reid, Pat MacArthur, Sila Puafisi, Greg Peterson, Leone Nakarawa, Rob Harley (capten), Simone Favaro, Ryan Wilson.

Eilyddion: James Malcolm, Alex Allan, Zander Fagerson, Scott Cummings, Chris Fusaro, Ali Price, Sam Johnson, Taqele Naiyaravoro.

Y Gweilch: Dan Evans; Tom Grabham, Ben John, Josh Matavesi, Eli Walker; Dan Biggar, Brendon Leonard; Paul James, Sam Parry, Aaron Jarvis, Lloyd Ashley (capt), Rory Thornton, Dan Lydiate, Justin Tipuric, James King.

Eilyddion: Scott Baldwin, Ryan Bevington, Dmitri Arhip, Alun Wyn Jones, Dan Baker, Tom Habberfield, Sam Davies, Jonathan Spratt.