Dynladdiad Abertawe: Dyn 23 oed yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 23 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o ddynladdiad mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yng nghanol Abertawe.
Fe wnaeth Daniel Jason Shepherd o ardal Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot, gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Ffordd y Dywysoges am tua 03:00 ddydd Sul, a chafodd Jonathon Robert Thomas, 34 oed, ei gymryd i Ysbyty Treforys ble bu farw'n ddiweddarach.
Cafodd Mr Sheperd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe yr wythnos nesaf.
Bu farw Jonathon Robert Thomas yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad