Gwrthdrawiad: Menyw 66 oed yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae menyw 66 oed yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gar ym Maesteg yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe darodd car Seat Ibiza gwyn y wraig a oedd yn cerdded ar Heol Cymer yn y dre tua 20:30 nos Wener 30 Hydref.
Mae hi'n cael triniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.