Dyn yn yr ysbyty wedi 'digwyddiad' yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Abertawe

Mae dyn wedi ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi digwyddiad yn y ddinas yn gynnar fore Sul 1 Tachwedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd y Dywysoges yn nghanol Abertawe tua 3 o'r gloch y bore, a chafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Mae ymchwiliad wedi dechrau ac mae dyn 23 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'n cael ei gadw yng ngorsaf yr heddlu yng nghanol Abertawe.

Mae'r ardal o gwmpas Ffordd y Dywysoges wedi ei chau.

Disgrifiad o’r llun,
Tafarn y Cross Keys ar Ffordd y Dywysoges, Abertawe.