Comisiynu trydedd cyfres o'r Gwyll
- Cyhoeddwyd

Bydd y gyfres ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd am drydedd cyfres.
Bydd y gwaith o ffilmio'r gyfres nesa yn dechrau yn Aberystwyth a'r cyffiniau ym mis Ionawr 2016.
Mae' hi'n cael ei chynhyrchu gefn-wrth-gefn yn Gymraeg a Saesneg, gyda'r gyfres yn cael ei darlledu'n gyntaf yn Gymraeg ar S4C ac yna yn y fersiwn ddwyieithog ar BBC One Wales.
Mae S4C yn bwriadu darlledu'r drydedd gyfres yn ystod hydref 2016, gyda BBC Cymru yna'n darlledu'n gynnar yn 2017.
Y partneriaid darlledu S4C a BBC Cymru, ynghyd ag all3media International, Tinopolis, Cronfa Gydgynhyrchu S4C a Chyllid Busnes Cymru sy'n cyd-ariannu'r cynhyrchiad, a'r cwmni teledu Fiction Factory yw'r cynhyrchwyr. Bydd Cyfres 3 yn cael ei chynhyrchu gan gyd-grewyr y gyfres Ed Talfan ac Ed Thomas.
Daw'r cyhoeddiad am y drydedd gyfres wrth i'r ail gyfres ddod i ben ar S4C. Fe fydd yr ail gyfres yn cael ei darlledu ar BBC One Wales yn y flwyddyn newydd.
Mathias a Mared yn aros
Ymysg yr enwau mawr sydd wedi'u cadarnhau ar gyfer trydedd cyfres y ddrama dditectif y mae Richard Harrington fel y ditectif dwys, DCI Tom Mathias.
Bydd y cast ar gyfer y gyfres hefyd yn cynnwys Mali Harries fel DI Mared Rhys ac Aneirin Hughes fel Prif Arolygydd Brian Prosser.
Mae'r gyfres yn cael ei dosbarthu'n rhyngwladol gan all3media International ac mae bellach wedi'i gwerthu i dros 30 o wledydd ac ar gael ar Netflix ledled y byd.
'Edrych ymlaen'
Dywedodd Uwch Gynhyrchydd y gyfres, Ed Thomas o gwmni Fiction Factory:
"Rydym yn falch iawn o gael dechrau gwaith ar Gyfres 3, ac yn hynod ddiolchgar i'n partneriaid darlledu, S4C a BBC Cymru ac all3media International am eu cefnogaeth.
Mae llwyddiant y gyfres yn destament i waith caled ein cast a'n criw dawnus ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw eto i greu Cyfres 3."