Galw am gefnogi cais cynllunio yn Nhrefdraeth
- Cyhoeddwyd

Mae yna alwadau ar Bwyllgor Rheoli Datblygu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gefnogi cais cynllunio ar gyfer 35 o dai newydd yn Nhrefdraeth, ar ôl pleidleisio yn erbyn y datblygiad mewn cyfarfod diweddar.
Fe fydd cais ar gyfer y tai ger Feidr Bentinck a Feidr Eglwys yn Nhrefdraeth yn cael ei ystyried unwaith eto gan aelodau'r Pwyllgor ar 11 Tachwedd.
Fe bleidleisiodd aelodau'r pwyllgor yn erbyn y cais yn y cyfarfod gwreiddiol ar 30 Medi yn sgil pryderon am draffig ger y safle a nifer y tai, a ffactorau eraill fyddai'n "niweidio rhinweddau arbennig" y Parc Cenedlaethol. Roedd swyddogion y Parc wedi argymell caniatau'r cais.
Roedd 14 o dai fforddiadwy yn rhan o'r cais a gyflwynwyd ar ran tirfeddianwyr lleol. Yn ôl ystadegau'r Parc Cenedlaethol, mae o leia' 24% o dai Trefdraeth yn ail-gartrefi.
Deisebu o blaid
Ers y cyfarfod hwnnw, mae yna ymgyrch wedi dechrau yn lleol o blaid y cais cynllunio.
Mae dros 960 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Parc Cenedlaethol i dderbyn cais. Yn ôl Wyn Harries, sydd yn asiant cynllunio i'r tirfeddianwyr:
"Mae eisiau cyfle i bobl lleol a sdim byd yn cael ei adeiladu i bobl lleol a theuluoedd ifanc... mae prisiau tai yn ddrud yn Nhrefdraeth achos sdim byd yn cael ei adeiladu 'ma.... Ni'n gwneud y defnydd gorau o'r tir er mwyn sicrhau'r nifer ucha' posib o dai fforddiadwy."
Anfodlonrwydd â nifer y tai
Yn ôl gwrthwynebwyr, dim ond 20 o dai gafodd eu clustnodi ar gyfer y safle yn y cynllun datblygu lleol. Mewn adroddiad fydd yn mynd gerbron aelodau'r pwyllgor ar Dachwedd 11eg, mae swyddogion cynllunio y Parc yn dweud bod y cais yn "cyd-fynd a pholisiau cenedlaethol a lleol."
Mae Ros McGarry - un o'r gwrthwynebwyr sydd yn byw ar Feidr Bentinck yn galw ar aelodau'r Pwyllgor i gadw at y penderfyniad gwreiddiol :
"Mae'r 14 o dai fforddiadwy yn iawn... ond dylsen nhw gadw at yr 20 o dai sydd yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer y safle...a chael 6 o dai i werthu ar y farchnad agored."
Bydd aelodau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn gwneud penderfyniad terfynol ar 11 Tachwedd mewn cyfarfod yn Noc Penfro.