Y Ceidwadwyr Cymreig yn addo ehangu cynllun swyddi
- Cyhoeddwyd

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y byddan nhw'n creu mwy o gyfleoedd gwaith ar gyfer pobl hŷn drwy newid amodau cynllun Twf Swyddi Cymru petaen nhw'n ffurfio'r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.
Mae'r cynllun, un o brif bolisïau Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd yn rhoi cymorth i'r rhai rhwng 16 a 24 oed.
Dywed Llafur Cymru fod y cynllun presennol wedi bod yn llwyddiant mawr.
Mae'n rhoi cymorth i gwmnïau roi gwaith i bobl ifanc am 25 i 40 awr yr wythnos am chwe mis a hynny drwy dalu cost isafswm cyflog iddynt.
Dywed y Ceidwadwyr eu bod am greu cynllun fyddai ar gael i bobl o bob oedran, gyda swydd fyddai'n para am 12 mis.
'Llwyddiant mawr'
Ond oherwydd na fydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael, byddai'r cyfanswm sy'n cael ei wario ar bob swydd unigol ar gyfartaledd yn gostwng o £4,211 i £3,000.
Dywed Llafur fod Twf Swyddi Cymru - sy'n derbyn cyfraniad o'r Undeb Ewropeaidd - wedi bod yn llwyddiant mawr gan greu mwy o'r swyddi na'r targed gafodd ei osod.
Ond yn ôl arolwg yn 2014 byddai tri chwarter y bobl wnaeth gymryd rhan yn y cynllun wedi dod o hyd i swyddi heb gymorth y cynllun.
Ym mis Gorffennaf fe wnaeth pwyllgor o aelodau'r cynulliad annog y llywodraeth i fabwysiadu cynllun ar gyfer pobl dros eu 50au.
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwry Cymreig: "Dyw cynllun y llywodraeth sy'n cyfyngu oedran ddim yn rhoi unrhyw gyfleoedd i'r rhai dros 24 oed - pobl sy yn awyddus i fod â gyrfa."
Mae o'n dweud y byddai ei blaid hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau bod y swyddi sy'n cael eu creu yn parhau mewn bodolaeth am gyfnod hirach.
Straeon perthnasol
- 17 Medi 2014
- 10 Ebrill 2014