W B Yeats a Chymru
- Published
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn nodi canrif a hanner ers geni'r bardd, y dramodydd a'r gwladweinydd Gwyddelig, W B Yeats ar 9 Tachwedd. Bydd darlith gan Daniel Mulhall, llysgennad Iwerddon i Brydain, yn cael ei thraddodi ym Merthyr Tudful.
Llŷr Gwyn Lewis, un o feirdd ifanc disglair Cymru, sy'n dadansoddi beth yw arwyddocâd y bardd o Sligo i Gymru.
Ysbrydoli Llenorion Cymru
Cafodd W B Yeats ei eni ar 13 Mehefin 1865 ac erbyn ei farwolaeth yn Ionawr 1939, rai misoedd cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, roedd Iwerddon wedi'i thrawsnewid o fod yn drefedigaeth ar ei gliniau i egin-wladwriaeth a oedd wedi cyhoeddi'i hannibyniaeth ac yn ceisio ffeindio'i ffordd drosti'i hun yn y byd. Dyna i chi gyfnod i'w brofi fel bardd!
Ond beth yw ei ddylanwad ar Gymru? Am wn i yr ateb amlwg yw fod Yeats a'i gyfnod wedi ysbrydoli nifer fawr o Gymry hefyd dros y blynyddoedd, o Saunders Lewis i Gerallt Lloyd Owen.
Nid dim ond llenorion; mae'r modd y mae gyrfa Yeats yn rhychwantu cyfnod o drawsffurfiad dybryd yn hanes Iwerddon yn golygu ei bod yn hawdd i ninnau wirioni arno, a diolch fod cyfnod mor dyngedfennol wedi cyd-ddigwydd â bywyd bardd a fedrai gofnodi'r peth ac adlewyrchu arno gystal.
Nid dim ond ei gofnodi, chwaith, ond ei ysgogi - dylem gofio bod nifer o feirniaid o'r farn na fyddai'r frwydr am Home Rule a'r cythrwfl a'i dilynodd wedi gallu digwydd o gwbl heb y seiliau a osodwyd flynyddoedd ynghynt.
Adfywiad llenyddol
Nid yn unig gan rai fel Daniel O'Connell, Charles Stewart Parnell, John O'Leary, a Michael Davitt, ond hefyd gan ymdrechion diwylliannol a chymdeithasol Cynghrair yr Wyddeleg, a'r adfywiad llenyddol yr oedd Yeats, ynghyd â'r dramodydd J M Synge a'r llenor Augusta Gregory, yn rhan greiddiol ohono.
Os oes arnoch angen enghraifft o'r modd y gall celfyddyd ragflaenu ac ysbrydoli gwleidyddiaeth, does dim angen ichi edrych ymhellach na Theatr Genedlaethol Iwerddon a sefydlwyd yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Ynghanol hyn i gyd, wrth gwrs, hawdd hefyd yw rhamantu am yr holl sefyllfa, a dyna'n union yr ymataliodd Yeats rhag ei wneud, yn gynyddol felly wrth heneiddio.
Pan gododd carfan fechan o wirfoddolwyr mewn gwrthryfel yn erbyn y Prydeinwyr yn ystod Pasg 1916, doedd ganddyn nhw ddim gobaith o ennill - ond roedden nhw'n ymwybodol o rym symbolaidd eu gweithred.
'Gwaed diangen'
Lladdwyd nifer helaeth o arweinwyr y gwrthryfelwyr yn fuan wedyn. Ar yr un pryd â gwerthfawrogi grym trawsnewidiol y symbol, arswydodd Yeats at y gwaed diangen a gollwyd: 'a terrible beauty is born', meddai yn un o'i linellau mwyaf enwog, a mwyaf gwrthgyferbyniol hefyd.
Yn rhy aml, efallai, rydym wedi bod yn chwannog i edrych ar Iwerddon fel enghraifft o lwyddiant 'ein brodyr Celtaidd' lle'r ydym ni'n hunain fel Cymry wedi methu.
Ond mae gwaith Yeats yn sefyll fel rhybudd i'n hatgoffa am yr holl waed a gollwyd wrth greu Iwerddon rydd, ac am y cymhlethdodau dyrys a ragflaenodd ac a ddilynodd hynny am ddegawdau. Cofiwn nad yw cwestiwn Gogledd Iwerddon wedi'i ddatrys o hyd.
Cofiwn hefyd, wrth gwrs, mai yn Saesneg y cyfansoddai Yeats ac mai trwy'r iaith honno, er gwaethaf adfywiad bychan i'r Wyddeleg yn y cyfnod, y gwelwn ninnau'r digwyddiadau hynny bellach.
'Did that play of mine send out / certain men the English shot?' oedd y cwestiwn a bwysai ar gydwybod Yeats am flynyddoedd wrth feddwl am ei ddrama gynnar, 'Cathleen ni Houlihan'. Ac ar ddiwedd ei yrfa, gresynai: 'Players and painted stage took all my love, / And not those things that they were emblems of'. Gwyliwn hefyd rhag bod yn rhy obeithiol fod gan nac arfau na barddoniaeth allu hudol i newid pethau.
'Cysur mawr'
Serch hynny, bob hyn a hyn mi fyddaf yn cael cysur mawr, neu ysbrydoliaeth, o droi at Yeats. Y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd adeg y refferendwm yn yr Alban, a'r olygfa drist honno y bore wedyn o'r baneri gleision yn cael eu brwsio ymaith yn y glaw oddi ar George Square yn Glasgow.
Troi a wnawn at 'Nineteen Hundred and Nineteen', nid y mwyaf syml nac uniongyrchol o gerddi Yeats, ond un gyforiog ei hystyron, o roi amser iddi.
Ynddi, mae Yeats yn myfyrio ar ei ystâd ac ar ystâd ei fyd, yn cofio'n ôl at ddechrau rhyfel annibynniaeth Iwerddon, a hithau erbyn cyfansoddi'r gerdd yn 1921 yn wynebu cyfnod o ansicrwydd a fyddai'n arwain maes o law at ryfel cartref.
'Many ingenious lovely things are gone / That seemed sheer miracle to the multitude', meddai, a dyna'n union sut y teimlwn innau wrth wylio'r teledu y bore glawog hwnnw.
Ond mae ganddo neges o obaith inni hefyd: mae'n gweld gwenyn prysur yn adeiladu nyth yng nghraciau adfail hen dŷ. 'O honey-bees, / Come build in the empty house of the stare' - dyna'i neges, ac mae honno'n un y gallwn ninnau wrando arni ac ymateb iddi, does bosib.