Ffrae ddatganoli: Carwyn Jones a Stephen Crabb yn cwrdd
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru a'r Prif Weinidog wedi bod yn cyfarfod wedi ffrae arall am ddatganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad.
Roedd Stephen Crabb wedi rhybuddio am y "perygl go iawn" o botensial economaidd Cymru'n cael ei "barlysu" gan "ddadleuon di-ben-draw am y cyfansoddiad".
Ond yn ôl Carwyn Jones, mae'r cynnig gan lywodraeth Prydain yn debyg i "hen gar rhydlyd sydd wedi ei wisgo fel car newydd".
Datganoli
Mae mesur drafft Cymru yn datganoli pwerau dros brosiectau ynni mawr, ffracio, trafnidiaeth a rhoi rheolaeth i'r Cynulliad dros ei faterion ei hun.
Mae hefyd am newid y model o ddatganoli, gan egluro'n gliriach pa lywodraeth sy'n rheoli beth.
Pryder Mr Jones yw y bydd hyn yn lleihau grym y Cynulliad, gan ddweud bod y mesur yn creu "feto i Loegr ar gyfreithiau Cymru".
Ond mae Mr Crabb yn feirniadol nad yw datganoli wedi arwain at brosiectau pwysig fel ffordd liniaru'r M4 a thrydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
Roedd y cyfarfod ddydd Llun yn un o'r rhai rheolaidd rhwng y ddau wleidydd.